Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Ionawr 2021
Amser:
09.04 -
11.57
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11045
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Andrew RT Davies AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg Alan Brace, Llywodraeth Cymru Tracey Breheny, Llywodraeth Cymru Peter Jones, Llywodraeth Cymru Dafydd Elis-Thomas AS, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Jason Thomas, Llywodraeth Cymru Steffan Roberts, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Rebekah James (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg.
2.2 Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ddarparu crynodeb o'r wybodaeth a gafwyd gan fyrddau iechyd lleol yn nodi sut y byddai'r ail £3.5 miliwn a ryddhawyd o Gronfa Gwella'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl yn cael ei wario yn unol â blaenoriaethau cynllun cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod heddiw ar gyfer eitem 4
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4.
4 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan awgrymu pa faterion y dylai ei adroddiad ymdrin â nhw.
5 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth gyda’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
5.2 Cytunodd swyddogion Llywodraeth Cymru i baratoi nodyn ar y meini prawf a ddefnyddir gan Chwaraeon Cymru i flaenoriaethu ceisiadau am arian cyfalaf i wella cyfleusterau chwaraeon, a sut y mae hyn yn sicrhau bod gwariant yn cael ei dargedu lle mae ei angen fwyaf.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.
7 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan awgrymu pa faterion y dylai ei adroddiad ymdrin â nhw.